Ar ôl misoedd o drefnu ‘da ni’n falch iawn o gyhoeddi  lansiad ein gwefan!

Yma cewch y newyddion diweddara’ o’r diwydiant , gwybodaeth am ffynonellau cyllid, cyrsiau a chyfleoedd o fewn y diwydiant Creadigol Digidol.  Safle sy’n galluogi’r diwydiant i rannu ei prosiectau diweddara’, ffynnon wybodaeth a chefnogaeth ar gyfer yr holl sy’n digwydd yn y diwydiant creadigol digidol yn Gogledd Cymru a thu hwnt.

Ychwanegiad cyffrous arall i’r wefan ydi’r fforwm,  safle sy’n galluogi’r diwydiant i rwydweithio 24/7.   Mae C6 wedi cynnal sawl digwyddiad rhwydweithio ac mi fyddwn yn parhau i wneud, ond wrth gyflwyno fforwm drafod ‘da ni’n gobeithio annog y rhannu gwybodaeth ac arbenigedd.   Cadwch lygaid allan hefyd am ein sesiynau cwestiwn ac ateb byw misol! Cyfle i chi holi’r arbenigwyr!  Yn y cyfamser porwch a chofiwch gysylltu i adael i ni wybod eich barn neu awgrymiadau am y wefan!

Leave a Reply