Llwyddiant ein digwyddiad cyntaf “Gwersi C-19 ac Edrych i’r Dyfodol”

18 Chwefror, 2021. 09:30-11:00.

Roedd y digwyddiad hwn, ein cyntaf ers cyd-weithio â M-SParc, yn ddigwyddiad panel yn gwahodd trafodaeth i effaith y pandemig a sut mae diwydiant wedi ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i’r normal newydd! Roedd cyfle i ddysgu mwy am ddatblygiadau, a’r sgiliau sydd angen yn y dyfodol, gyda sgiliau yn destun a oedd yn plethu drwy’r trafodaethau ar hyd y digwyddiad. Roedd bwrlwm yn ein digwyddiad a digon o weithgarwch yn y blwch sgwrs ar Zoom, a gwelsom gysylltiadau newydd yn tyfu o’r trafodaethau.

Trosolwg o’r sgyrsiau:

Dosbarthiadau Meistr:

Siaradodd Geraint Evans, Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes, S4C, am effaith y pandemig ar ddarlledu, a rhannodd fwy o fanylion am ddatblygiad gwasanaeth newyddion digidol newydd S4C sydd am drawsffurffio S4C yn fwy na’r sgrîn deledu. Cawsom gip olwg ar sut bydd y gwasanaeth digidol yma yn edrych o flaen ei gyhoeddiad. Bydd yr ap newyddion newydd sbon yn cael ei lansio yn yr wythnosau nesaf.

O’r traddodiadol i TikTok;

Rhannodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod Yr Urdd a’r Celfyddydau, ei phrofiadau o ymateb yn gyflym i her y pandemig, a sut y cafodd yr ŵyl gorfforol sefydledig ei hailddyfeisio’n llwyddiannus ar-lein fel Eisteddfod T. Camp go wir!  Esboniodd Siân sut symudwyd un o ddigwyddiadau mwyaf Ewrop i bobl ifanc o’r ffisegol i’r digidol mewn chwe wythnos, gan ddenu chwe mil o gystadleuwyr! Bydd Eisteddfod T ar lein eto eleni, gyda mwy o arloesedd ac elfennau cyffroes newydd.

Sgyrsiau panel:

Siân Gale, Rheolwr Sgiliau a Datblygu, Bectu/ CULT Cymru. Aeth Siân i’r afael â’r sgiliau sydd eu hangen yn y diwydiant, yn ogystal â’r hyn sydd ei angen ar weithwyr llawrydd o ran gwytnwch. Trafododd Siân yr ystod o gyrsiau a’r cymorth sydd ar gael i weithwyr y sector greadigol, sy’n hynod bwysig i weithwyr llawrydd sydd fel arall heb fynediad at hyfforddiant yn yr un ffordd a’r sawl sy’n derbyn cyrsiau trwy’u cyflogwyr.

Colin Heron, Deon y Gyfadran Gwyddoniaeth Celf a Thechnoleg, Prifysgol Wrecsam Glyndŵr. Yma, cawsom drosolwg o’r cynnig yn Addysg Uwch a rôl prifysgolion wrth ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o dalent diwydiant. Er bod dysgu celfyddyd gymhwysol yn her ar-lein, mae addysgu wedi’i drawsffurfio’n llwyddiannus.

Kev Tame, AM. Mae AM, a lansiwyd ym mis Mawrth 2020, yn blatfform newydd a ddatblygwyd i dynnu sylw at y gorau o allbwn creadigol Cymru. Yma, cawsom gyflwyniad i beth yw AM a sut mae’n cwmpasu’r hyn sy’n digwydd yn greadigol yng Nghymru ac yn adeiladu cynulleidfa newydd. Gwych oedd clywed am sut mae cynulleidfa ddigidol wedi tyfu mor sydyn a bod AM yn barod efo 200 o sianeli a 100 mil o wylwyr.

Roedd y digwyddiad yma yn hynod berthnasol, wedi ei dderbyn yn dda iawn gan y gynulleidfa. Os nad oeddech yn bresenol, cewch wylio’r recordiad ymahttps://www.youtube.com/watch?v=AMFvqH5uNfE

Mae ein digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal ym mis Ebrill, gyda ffocws ar y diwydiant gemau fideo. O’r sgiliau sy’n ofynnol, i straeon llwyddiant, mae rhywbeth at ddant pawb yn y maes creadigol digidol. Archebwch eich tocyn * yma * a gobeithiwn eich gweld chi yno.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Ogledd Creadigol, ac i ymaelodi, cofrestrwch ar y rhestr bostio, yma http://gogleddcreadigol.cymru/contact-us/