On-set Facilities

Mae cwmni VFX On-set Facilities, sydd wedi’ leoli yn y DU wedi datblygu system nodedig ac o bosib unigryw sydd yn creu VFX byw sy’n weledol syfrdanol o gynyrchiadau sgrin-werdd.

Wedi’i leoli mewn gweithdy yng Nghorwen, mae’r cwmni hefyd yn defnyddio cyfleusterau yng Nghanolfan Optic, lle mae OSF yn bwriadu lleoli yn hwyrach eleni.  Mae’r system yn defnyddio injan gemau VR sydd yn cyfuno’r ddelwedd yn y blaen, y cefndir CG, y matte a’r data tracio camera ac yn ei fwydo i Nuke, o le mae’r cyfansoddiad terfynol yn cael ei allbynnu.  Mae’r cwmni, sy’n arbenigo mewn trawsnewid setiau ffilm yn ddigidol, ac sydd â swyddfeydd yn y DU, Sbaen ac Awstralia yn credu ei fod wedi creu’r system VFX byw gyntaf i gyfuno technoleg injan gêm gyda YFX safon uchel fyw a chamerâu digidol i greu effeithiau gweledol byw ar-set.