Technegydd Camera a Sain, Ymchwilydd, Gweithredwr Bwm, dim ond rhai o’r cyfleoedd sydd ar gael drwy gynllun diweddara Prentis Cyfryngau Cyfle.

Mae yna 29 swydd ar gael dros Gymru gyfan, gyda 5 ohonyn nhw yn y gogledd.   Mae Cwmni Chwarel o Gricieth, Cwmni Da o Gaernarfon a Rondo yn Ynys Mon yn cynnig swyddi.

Mae’r Prentisiaeth Cyfryngau Creadigol a Digidol yn gymhwyster sydd wedi ei lunio er mwyn galluogi prentisiaid Cymru i adeiladu gyrfa llwyddiannus yn y cyfryngau wrth ddysgu, ennill profiad a chael mynediad i gysylltiadau dylanwadol yn y diwydiant.

Mae’r dyddiad cau ar y 16eg o Fai,  ac mae’r manylion yn llawn ar wefan www.prentiscyfryngau.info

Leave a Reply