Rownd a Rownd

Ers i’r gyfres gychwyn yn 1995, mae Rownd a Rownd (y rhaglen sebon poblogaidd sy’n cael ei chynhyrchu gan Rondo Media) wedi cyfrannu dros £85m i’r economi ym Mhorthaethwy, gydag amcangyfrif 
o 95% wedi’i wario’n lleol.

Mae’n cyflogi o gwmpas 150 o bobl am hyd at 10 mis o’r flwyddyn, mewn amryw o rolau creadigol, technegol a gweinyddol.

Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae’r gyfres wedi magu cyfoeth o dalent greadigol, gyda sawl berson a hyfforddwyd ar y gyfres wedi symud ymlaen i weithio ar ffilmiau a chynyrchiadau rhwydwaith rhyngwladol.

Mae’r gyfres yn portreadu agweddau o’r gymuned leol ac yn dangos tirlun syfrdanol Eryri a’r Fenai.