Canolfan y Diwydiannau Creadigol Prifysgol Glyndŵr

Agorodd ganolfan £5m ar gyfer y Diwydiannau Creadigol yn 2011 ym Mhrifysgol Glyndŵr, sydd bellach wedi dod yn gartref i BBC Cymru Wales yn Wrecsam.  Mae hyn yn cryfhau presenoldeb y BBC yng ngogledd ddwyrain Cymru, ac yn darparu cyfleusterau cynhyrchu newydd i’w staff, gwestai a chyfranwyr.

Mae gan y ganolfan gorsafoedd teledu a radio o’r radd flaenaf, gweithdai 3D, stiwdios dylunio, cyfleusterau IT, ystafelloedd hyfforddi Apple a chyfleusterau ôl-gynhyrchu sain-gweledol.

Wrth ddod a’r disgyblaethau sy’n gysylltiedig â’r Diwydiannau Creadigol ynghyd, y gobaith yw y bydd y ganolfan yn dod a datrysiadau arloesol i broblemau masnachol, a chyfrannu i dyfiant y Diwydiannau Creadigol yng ngogledd orllewin Cymru.

Ar hyn o bryd mae yna 6 chwrs isradd ym Mhrifysgol Glyndŵr yn ymwneud a Thechnoleg Cyfryngau  Creadigol, ac 18 o gyrsiau isradd yn yr ysgol Celf a Dylunio.