Gogledd Cymru – lleoliad i dirwedd a golygfeydd mwyaf eiconig y byd, cadarnle diwylliant a iaith Cymru ac ers canrifoedd yn ysbrydoliaeth i bobl greadigol. Heddiw, mae’r diwylliant creadigol yn parhau ac yn cael ei adlewyrchu yn y cwmnïau niferus sydd wedi eu lleoli yn y rhanbarth ac yn yr arbenigedd sy’n bodoli mewn nifer o sectorau creadigol.

10800
o swyddi ar draws y gogledd

711
o enillion cyfartalog wythnosol

1100
o fentrau yn y gogledd
LLAIS I'R DIWYDIANNAU CREADIGOL-DIGIDOL
Mae’r diwydiannau creadigol yn un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru
Gyda’i gilydd mae’r diwydiannau creadigol-digidol yn cyfrannu’n sylweddol at economi’r gogledd, yn sylfaen i’n diwylliant a’n cymunedau ac yn parhau i roi gogledd Cymru ar y map rhyngwladol.
RHWYDWAITH Y DYFODOL
Prif amcanion
Rolau
Blaenoriaethau
Gogledd
Creadigol
Mae Gogledd Creadigol yn galw ar lunwyr polisi, unigolion dylanwadol a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i weithio gyda un llais i’r diwydiannau creadigol-digidol i:
Gryfhau a hyrwyddo potensial y sector creadigol-digidol yng ngogledd Cymru;
Datblygu a manteisio ar botensial y coridor creadigol o Ddulyn, trwy ogledd Cymru ac i ranbarth Pwerdy’r Gogledd;
Gweithio â phartneriaid i sicrhau buddsoddiad a chyfleoedd datblygu i ymateb i anghenion y diwydiannau creadigol-digidol ar draws y rhanbarth ac i sicrhau cydbwysedd buddsoddi ar draws Cymru;
Cydweithio â darparwyr addysg i sicrhau bod y sector creadigol-digidol yn addas ar gyfer y dyfodol ac yn ymateb i anghenion a datblygiadau sectorol;
Hyrwyddo cynnig creadigol-digidol gogledd Cymru fel lleoliad delfrydol i fod yn rhan o glwstwr ffyniannus, i ddatblygu busnes ac i fuddsoddi.
YMUNWCH Â'N SGWRS
NEWYDDION
