Mae Galactig wedi lansio’r ap realiti estynedig cyntaf yn y Gymraeg

Mae Galactig wedi lansio’r ap realiti estynedig cyntaf yn y Gymraeg

Profwch dementia trwy realiti estynedig sy’n torri tir newydd ar Oculus

Profiad o realiti estynedig (VR) – yn y Gymraeg a’r Saesneg – sy’n galluogi defnyddwyr i ddeall sut mae’n teimlo i fyw â dementia. Mae Yn Fy Nwylo I ar gael nawr, a hynny am ddim yn yr Oculus Rift Store.

Mae’r sefyllfaoedd sydd ar gael yn yr ap yn cynnwys tasgau bob dydd, fel gwneud paned yn y gegin a chwilio am oriadau eich car; mae llais trwy’r clustffonau yn siarad â chi yn yr un ffordd a fyddai person â dementia o bosib yn meddwl e.e. dweud wrthoch chi am roi tegell trydanol ar y stôf. Dengys hyn y dryswch a deimlir gan gleifion dementia.

Mae’r defnydd yma o dechnoleg realiti estynedig yn torri tir newydd o ran sgiliau cyfathrebu allweddol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Rydym wedi creu profiad sy’n eich galluogi i ryngweithio â gwrthrychau syml a gaiff eu defnyddio bob dydd gyda dwylo estynedig, sydd wedyn yn helpu defnyddwyr i ymgolli’n llwyr yn y profiad a’r naratif.

Dywed Derick MurdochCyfarwyddwr Creadigol yr asiantaeth greadigol Galactig
Lawrlwythwch y datganiad llawn i’r wasg
Siop Oculus